Arweinyddiaeth yn seiliedig ar Brofiad Go Iawn

Helo. Fy enw i yw Rai. Rydw i wedi goroesi (seicosis, gwasanaethau iechyd meddwl, sawl diagnosis, trawma, gorfodaeth ac ambell beth arall). Rwy’n gweithio gyda NSUN a National Mind i helpu i ddeall mwy am y peth yma mae rhai pobl yn ei alw’n ‘arweinyddiaeth yn seiliedig ar brofiad go iawn’ yng Nghymru a Lloegr.

Yn ystod y mis nesaf, byddaf yn gwrando ar gynifer o bobl â phosib i edrych ar:

  • Beth mae ‘arweinyddiaeth yn seiliedig ar brofiad go iawn’ yn ei olygu i wahanol bobl?
  • Ym mha ffyrdd y mae’n gysyniad defnyddiol neu niweidiol?
  • Enghreifftiau o brosiectau, mentrau a sefyllfaoedd lle mae pobl â phrofiad go iawn wedi bod yn gysylltiedig â threfnu a/neu ddylanwadu.
  • Beth sy’n gallu helpu i feithrin / cryfhau hyn?
  • Beth sy’n gallu rhwystro hyn, neu wneud hyn yn anodd?

Yn y pen draw, rydw i’n edrych i weld a oes rôl i NSUN a National Mind gefnogi’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘Arweinyddiaeth yn seiliedig ar Brofiad Go Iawn’. Os oes rôl, tybed beth allai’r rôl honno fod.

Ar ddiwedd y prosiect, byddaf yn casglu’r hyn a ddysgwyd ynghyd i’w rannu â NSUN a National Mind sydd wedi comisiynu’r gwaith hwn. Byddaf hefyd yn ysgrifennu blog neu erthygl mynediad agored, gan rannu’r prif bwyntiau gyda’r gymuned ehangach. Bydd hwn yn cael ei rannu ar wefan NSUN, ond os hoffech wneud yn siŵr eich bod yn cael copi, anfonwch e-bost ataf.

Cwestiynau Cyffredin

Beth ydw i’n ei olygu wrth ‘Profiad Go Iawn’?

Mae gan bawb brofiad o fyw. Ond pan fydda i’n sôn am ‘brofiad go iawn’, rydw i’n cyfeirio at fath penodol o brofiad – profiad o faterion iechyd meddwl, bod yn glaf/cleient gwasanaethau iechyd meddwl, cael diagnosis o broblem iechyd meddwl a/neu fynd i’r ysbyty.

Mae’n derm lletchwith, ond dyma’r un gorau sydd gen i ar hyn o bryd. Rydw i’n ei ddefnyddio oherwydd rwy’n credu bod gwahaniaeth mawr rhwng mynd drwy brofiadau fel y rhain a chefnogi rhywun arall drwyddyn nhw.

Beth ydw i’n ei olygu wrth ‘Arweinyddiaeth yn seiliedig ar Brofiad Go Iawn’?

Mae’r term ‘Arweinyddiaeth’ yn ddadleuol. Mae’n gallu cydnabod, peidio cydnabod, cyffroi, gwylltio a diflasu pobl. Efallai fod y term ‘arweinyddiaeth’ yn peri tramgwydd i chi neu’n eich gwylltio. Os felly, gobeithio y byddwch yn dal i gyfrannu at y prosiect hwn gan fod gennych rywbeth pwysig i’w gynnig y mae angen ei glywed.

Mae rhan fawr o’r prosiect hwn yn ymwneud â delio â’r cwestiynau, y cymhlethdodau a’r dadleuon sy’n ymwneud ag arweinyddiaeth yn seiliedig ar brofiad go iawn. Rydym eisiau deall a rhoi lle i wahanol safbwyntiau, yn hytrach na’u cuddio a chreu un naratif a chymryd arnom mai dyna’r gwir.

Pa bynnag eiriau y byddwn yn eu defnyddio i’w disgrifio, rwy’n gobeithio dysgu am fentrau a sefyllfaoedd lle mae pobl â phrofiad go iawn yn gysylltiedig â threfnu a/neu ddylanwadu.

Er enghraifft:

  • Gartref, yn ein hardal leol, mewn gofod seiber, yn rhanbarthol, yn genedlaethol neu’n rhyngwladol
  • Gyda geiriau, camau gweithredu neu mewn ffyrdd mwy creadigol
  • Fel rhan o rôl â theitl, neu beidio
  • Mewn rôl â chyflog, heb gyflog neu wedi’i thalu’n rhannol
  • Yn cael ei gydnabod gan eraill, neu heb ei weld
  • Yn cynnwys ychydig o bobl, neu filoedd
  • Ymwneud, cyd-gynhyrchu, ymchwil, cefnogaeth gan gymheiriaid, datblygu cymunedol, y cyfryngau, hyfforddiant, trefnu, ysgrifennu, actifiaeth, polisi neu rywbeth nad wyf wedi dod o hyd i eiriau iddo eto.

Pam fy mod i’n gwneud hyn?

Dros y blynyddoedd, rwyf wedi elwa mewn sawl ffordd wahanol o amser, doethineb a haelioni eraill sydd wedi goroesi. Rydw i wedi gweld pobl sydd wedi goroesi yn cysylltu, yn trefnu ac yn rhannu doethinebau lu sydd wedi helpu i siapio’r dirwedd rydw i’n cerdded arni. Heb hyn, fyddwn i ddim pwy ydw i. Rwyf hefyd wedi gweld pobl yn gorwneud pethau, wedi ymlâdd, yn cael eu tawelu. Ar adegau, rydw i fy hun wedi bod yn flinedig ac wedi ymlâdd. Mae’r syniad o arweinyddiaeth yn heriol mewn sawl ffordd, ac yn y prosiect hwn rwyf yn gofyn cwestiynau nad oes gennyf atebion pendant iddynt. Mae gen i ddiddordeb go iawn yn yr hyn sydd ar feddwl pobl eraill.

Ar wahân i’r darn hwn o waith, rwyf wrthi’n astudio ar gyfer doethuriaeth ym maes gwybodaeth goroeswyr a threfnu ym maes iechyd meddwl. Mae’n bwnc sy’n agos at fy nghalon ac rwy’n treulio llawer o’m hamser yn teimlo’n chwilfrydig amdano.

Ydy hi’n iawn i gysylltiadau gymryd rhan?

Er bod croeso i gysylltiadau lenwi’r arolwg, ac mae ganddynt gyfraniadau gwerthfawr i’w gwneud, bydd y broses hon yn rhoi blaenoriaeth i leisiau pobl sydd â phrofiad go iawn.